Eglwys Sant Tysilio
Mae Tedi Horsley’n hoffi ymweld â lle arbennig o’r enw Ynys Tysilio ar arfordir Ynys Môn.
Pan fydd yn ymweld ag Ynys Tysilio, mae’n cerdded yr holl ffordd o gwmpas yr Ynys. Bellach, mae Tedi Horsley wedi llunio ei Lwybr Pererinion ei hun. Mae’r Llwybr Pererinion yn mynd â chi o gwmpas yr eglwys ac i fyny at y gofeb rhyfel sydd ar ben yr Ynys. Ar y daith rydych chi’n dysgu am Sant Tysilio a sut mae’r gymuned Gristnogol wedi cadw’r ffydd Gristnogol yn fyw yno am ganrifoedd.
Ymunwch â Tedi Horsley ar Lwybr y Pererinion trwy lwytho i lawr y pecyn gweithgaredd a gwyliwch y ‘ffilm stori’ a’r ‘ffilm gerddoriaeth’.
Lawrlwythwch y pecyn gweithgareddau