Pwy wnaeth y wefan?
Pan ddaeth Tedi Horsley i Eglwys Gadeiriol Bangor roedd arno eisiau creu gwefan i sôn am ei weithgareddau yn yr Eglwys Gadeiriol. Roedd arno hefyd eisiau dathlu bywyd a gweinidogaeth dau ddyn arbennig a oedd wedi gweithio i wneud Eglwys Gadeiriol Bangor yn lle mor arbennig
- Y Tra Pharchedig Erwyd Edwards (Deon, 1988-1998)
- Y Gwir Barchedig Tony Crockett (Esgob, 2004-2008)
Mae’r wefan hon wedi ei chyflwyno er cof am y ddau.
Mae Tedi Horsley’n cydnabod yn ddiolchgar haelioni teuluoedd Deon Erwyd ac Esgob Tony, sydd wedi helpu i noddi’r wefan hon. Daeth cefnogaeth bellach gan Enterprising Charities ac un o awduron Tedi Horsley.
Lluniodd Tedi Horsley’r wefan hon gyda help Tania ap Siôn ac Owen Edwards o Ganolfan y Santes Fair, a Sue Jones, Deon (2011-2015), Philip Vernon ei ddarlunydd, a Dan Kingsley dylunydd ei wefan.