Mae’n Ddydd Nadolig ac mae Tedi Horsley’n teimlo’n llawn cyffro.
Mae Tedi Horsley’n gwisgo amdano ac yn mynd allan gyda Lucy, Walter a Betsi Bêr i glywed stori’r Nadolig.
Mae Mr a Mrs Henry’n arwain Tedi Horsley heibio’r siopau a’r coed Nadolig nes byddan nhw’n dod at yr eglwys.
Y tu mewn i’r eglwys mae Tedi Horsley a Betsi Bêr yn cwrdd â’u ffrindiau i gymryd rhan yn nrama’r Nadolig.
Maen nhw’n dewis gwisgoedd i fod yn fugeiliaid a brenhinoedd, angylion a gŵr llety, Mair a Joseff.
Dechrau’r stori oedd pan ddaeth yr Angel Gabriel i ymweld â Mair gan ddod â newydd da am lawenydd mawr iddi.
‘Paid ag ofni,’ meddai’r angel wrth Mair. ‘Fe fyddi di’n cael baban bach ac yn ei alw’n Iesu’.
Dechrau’r stori oedd pan ddaeth angel yr Arglwydd at Joseff gan ddod â newydd da am lawenydd mawr iddo.
‘Paid ag ofni,’ meddai’r angel wrth Joseff. ‘Fe fyddi di’n priodi Mair ac yn gofalu am ei mab Iesu’.
Fe ddatblygodd y stori pan aeth Joseff a Mair ar daith hir o Nasareth i Fethlehem.
Aeth Joseff a Mair i lety er mwyn cael lle cyfforddus i aros a rhywle diogel i’w baban gael ei eni.
Fe ddatblygodd y stori pan anfonodd gŵr y llety Mair a Joseff i gael lloches mewn stabl anifeiliaid.
Y noson honno cafodd y baban Iesu ei eni a’i roi ym mhreseb bwydo’r gwartheg, tra roedd yr anifeiliaid yn gwylio.
Cafodd y stori ei chyhoeddi i’r byd pan beidiodd y bugeiliaid ag edrych ar eu defaid a syllu i fyny i awyr y nos.
Fe wnaeth yr angylion lefaru’n glir fod Mab Duw wedi ei eni ym Methlehem, a dweud wrth y bugeiliaid am fynd i weld.
Fe welwyd bod y stori’n wir pan ddilynodd y bugeiliaid y ffordd lychlyd i Fethlehem a dod o hyd i stabl yr anifeiliaid.
Aeth y bugeiliaid i mewn a gweld popeth fel roedd yr angylion wedi dweud, gan weld Mair, Joseff, a’r baban Iesu.
Cafodd y stori ei chyhoeddi i’r byd pan beidiodd y doethion ag edrych ar eu camelod a syllu i fyny i awyr y nos.
Fe wnaeth y seren ddisglair yn yr awyr lefaru’n glir fod Brenin brenhinoedd wedi ei eni yn Jwdea, a dweud wrth y doethion am fynd i weld.
Fe welwyd bod y stori’n wir pan ddilynodd y doethion y seren a dod o hyd i ble yr oedd Iesu.
Aeth y doethion i mewn a gweld popeth fel roedd y proffwydi wedi ei ddweud, gan weld Mab Duw a Brenin brenhinoedd.
Fe gafodd y stori ymateb wedyn yng nghalonnau pobl pan benliniodd y doethion a chyflwyno’u hanrhegion i Iesu.
Fe wnaethon nhw roi wrth draed Iesu aur brenhinoedd, thus offeiriadon a myrr pobl gyffredin.
Mae’r stori’n cael ymateb yn awr yng nghalonnau pobl sy’n penlinio wrth draed Iesu heddiw ac yn cyflwyno eu hunain iddo.
Mae Tedi Horsley a Betsi Bêr yn ymuno â phobl Duw wrth ddod â’u hanrhegion i ddathlu genedigaeth Iesu.
Mae’n Ddydd Nadolig ac mae Tedi Horsley’n teimlo’n llawn cyffro.