Mae’n fore Sul ac mae Tedi Horsley’n teimlo’n llawn cyffro.
Ar fore Sul mae Tedi Horsley’n codi’n fore ac yn mynd allan gyda Lucy, Walter a Betsi Bêr.
Mae Mr a Mrs Henry’n arwain Tedi Horsley heibio’r siopau nes byddan nhw’n dod at yr eglwys. Beth fydd yn digwydd yno'r wythnos hon?
Mae Tedi Horsley a Betsi Bêr yn cwrdd â’u ffrindiau i gymryd rhan mewn drama am ddisgyblion Iesu.
Heddiw, maen nhw’n dewis gwisgoedd i fod yn bysgotwyr, casglwyr trethi, seiri, ffermwyr, a hyd yn oed Iesu ei hun.
Dechrau’r stori oedd pan oedd Iesu’n cerdded ar lan Môr Galilea. Fe welodd gychod a physgotwyr yn brysur wrth eu gwaith.
Roedd rhai’n atgyweirio cychod. Roedd rhai’n gwerthu pysgod. Roedd rhai’n adrodd storïau am stormydd ac am helfeydd anhygoel o bysgod.
Roedd Simon a’i frawd Andreas wrthi’n brysur yn taflu eu rhwydi i’r llyn er mwyn ceisio dal haig o bysgod.
Fe alwodd Iesu arnyn nhw, ‘Dewch ar fy ôl i, ac fe’ch gwnaf yn bysgotwyr dynion.’ Daeth Simon ac Andreas. Yn awr roedd dau ddisgybl.
Roedd Iago a’i frawd Ioan, meibion Sebedeus, wrthi’n brysur yn atgyweirio’u rhwydi, yn barod i fynd allan ar y llyn.
Fe alwodd Iesu arnyn nhw, ‘Dewch ar fy ôl i, ac fe’ch gwnaf yn bysgotwyr dynion.’ Daeth Iago ac Ioan. Yn awr roedd pedwar disgybl.
Yn fuan ar ôl iddyn nhw gael eu galw fe aeth Iesu â’r pedwar disgybl i’r synagog ar y Saboth. Yno fe ddechreuodd Iesu addysgu’r bobl.
Roedd y pedwar disgybl wedi rhyfeddu at yr hyn roedden nhw’n ei glywed, am fod Iesu’n addysgu gyda’r fath awdurdod a grym.
Y tu mewn i’r synagog roedd dyn ag ysbryd aflan ynddo. Yno, fe ddechreuodd Iesu iachau pobl sâl.
Roedd y pedwar disgybl wedi rhyfeddu at yr hyn roedden nhw wedi ei weld, am fod hyd yn oed ysbrydion aflan yn ufuddhau i orchmynion Iesu.
Fe ddatblygodd y stori pan oedd Iesu’n cerdded heibio’r swyddfa dreth yr oedd y fyddin Rufeinig wedi ei sefydlu.
Yno, yn y swyddfa dreth, gwelodd Iesu’r casglwyr trethi wrthi’n brysur yn eu gwaith yn casglu arian i brynu bwyd i’r milwyr.
Roedd Lefi, mab Alffeus, yn brysur yn cyfri’r arian yr oedd wedi ei gasglu, gan obeithio cael elw mawr.
Fe alwodd Iesu arno, ‘Tyrd, dilyn fi, ac fe roddaf i ti ddechrau newydd mewn bywyd.’ Yn awr roedd pum disgybl.
Yn fuan ar ôl iddyn nhw gael eu galw fe aeth Iesu â’r pum disgybl hyn i dŷ Lefi i gael cinio, ac fe wnaethon nhw glywed y sgwrs.
Roedd y pum disgybl wedi rhyfeddu wrth glywed Iesu’n dweud, ‘Dwyf fi ddim wedi dod i alw’r ar bobl gyfiawn, ond ar bechaduriaid.’
Fe aeth y stori ymlaen pan aeth Iesu i fyny i’r bryniau a galw ato y rhai hynny yr oedd arno eu heisiau i fod yn ddisgyblion ac apostolion.
Fe alwodd Iesu ar Philip a Bartholomeus, Mathew a Thomas, Iago a Thadeus, Simon a Jwdas. Yn awr roedd deuddeg disgybl.
Mae’r stori’n parhau heddiw pan fydd Iesu’n cerdded trwy ein byd ac yn parhau i alw, ‘Tyrd, dilyn fi.’
Fe fydd dynion a merched, bechgyn a genethod, yn gadael eu gwaith prysur i ddilyn Iesu i ble mae’n eu harwain. Yn awr mae miliynau o ddisgyblion.
Mae’n fore Sul ac mae Tedi Horsley wedi clywed galwad Iesu, ‘Tyrd, dilyn fi’.