Ar gyfer pwy mae gwefan Tedi Horsley?
Mae gwefan Tedi Horsley ar gyfer y rhai sydd eisiau dod i wybod am Eglwys gadeiriol Bangor. Mae ar gyfer
- rhai sy’n byw ym Mangor ac sy’n pasio’r Eglwys Gadeiriol bob dydd
- rhai sy’n byw yng Ngogledd Cymru ac sy’n dod i Fangor
- rhai sy’n ymweld â Gogledd Cymru ar eu gwyliau
- rhai sy’n byw ymhell ac sydd eisiau dychmygu ymweliad
Mae’r wefan ar gyfer
- teuluoedd sydd eisiau rhoi’r profiad i’w plant o ymweld â’r Eglwys Gadeiriol
- ysgolion sy’n cynnal prosiect ar yr Eglwys Gadeiriol
Mae’r wefan wedyn yn cynnig
- syniadau ar gyfer ymweld ag eglwysi eraill yng Ngogledd Cymru
- storïau eraill am Tedi Horsley
- ffyrdd i bobl ifanc ymwneud ag addoli ar y Sul yn eu heglwysi eu hunain