Arth fach yw Tedi Horsley sy’n hoffi ymweld ag eglwysi cadeiriol. Heddiw mae Tedi Horsley’n ymweld ag Eglwys Gadeiriol Bangor.
Arth fach yw Tedi Horsley sy’n hoffi ymweld ag eglwysi cadeiriol. Heddiw, mae Tedi Horsley’n ymweld ag Eglwys Gadeiriol Bangor. Mae Tedi Horsley wedi teithio i Fangor yng Ngogledd Cymru gyda’i ffrindiau, Mr a Mrs Henry, Lucy, Walter a Betsi Bêr. Gyda’i gilydd, maen nhw’n edrych ymlaen at gerdded yr holl ffordd o gwmpas yr eglwys gadeiriol cyn mynd iddi er mwyn gweld y tu mewn. Mae Tedi Horsley’n ein gwahodd ni i fynd i mewn gydag ef.
Dysgu am Eglwys Gadeiriol Bangor
Saif Eglwys Gadeiriol Bangor ar un o'r safleoedd eglwysig hynaf ym Mhrydain. Cafodd Deiniol, sylfaenydd yr Esgobaeth, ei gysegru'n Esgob tua'r flwyddyn 546 OC.
Credir mai Maelgwn, Brenin Gwynedd, a roddodd y tir i Deiniol lle'r adeiladodd ei eglwys a'i gell. Amgaeodd Deiniol ei dir trwy yrru polion i'r ddaear a phlethu canghennau rhyngddynt. Mae'r enw Bangor yn disgrifio'r math hwn o blethwaith.
Mae Tedi Horsley’n cerdded i fyny’r llwybr o’r maes parcio. Ar yr ochr Ogleddol mae’n gweld y fynedfa lle mae pobl yn dod ynghyd ac yn cwrdd â’i gilydd.
Mae Mr a Mrs Henry’n parcio’u car yn y maes parcio islaw’r eglwys gadeiriol. Mae Tedi Horsley’n cerdded i fyny’r llwybr o’r maes parcio gyda Lucy a Walter. Maen nhw’n dod at ochr Ogleddol yr eglwys gadeiriol yn gyntaf. Mae’r llwybr yn eu harwain yn union at y drws mawr a’r fynedfa lle mae pobl yn dod ynghyd ac yn cwrdd â’i gilydd. Mae Tedi Horsley’n edrych ar y wal gerrig gref, ar y bwtresi, ac ar y ffenestr Gothig.
Edrych ar ochr Ogleddol Eglwys Gadeiriol Bangor
Adeiladwyd eil Ogleddol Corff yr Eglwys rhwng blynyddoedd 1300 ac 1350. Mae'r chwe ffenestr yn arddull ‘Addurnedig’ y cyfnod hwnnw. Cryfheir y muriau rhwng y ffenestri gan fwtresi syml sydd hefyd yn gymorth i gynnal y to dros yr eiliau.
Nid yw’r haul yn tywynnu ar ochr Ogleddol eglwysi ac eglwysi cadeiriol. Mewn llawer o eglwysi hynafol cedwid y drws ar yr ochr Ogleddol ynghau, ac roedd y brif fynedfa ar yr ochr Ddeheuol. Mae Eglwys Gadeiriol Bangor yn anarferol gan mai'r drws Gogleddol sy'n cael ei ddefnyddio fel prif fynedfa.
Mae Tedi Horsley’n cerdded ar hyd y llwybr at flaen yr Eglwys Gadeiriol. Ar y blaen Dwyreiniol mae’n gweld y ffenestr fawr Gothig a’r gwaith carreg gwych.
Mae ochr Ogleddol yr eglwys gadeiriol yn teimlo’n llwydaidd a thywyll i Tedi Horsley. Anaml iawn y bydd golau’r haul yn taro ar ochr Ogleddol yr eglwys gadeiriol, felly mae Tedi Horsley’n arwain ei ffrindiau draw at flaen Dwyreiniol yr eglwys gadeiriol. Mae Tedi Horsley’n ein gwahodd ni i fynd gydag ef, ac edrych i fyny at y ffenestr fawr Gothig a’r gwaith carreg gwych. Pan fydd yr haul yn codi yn y bore, mae’n tywynnu ar ffrynt Dwyreiniol yr eglwys gadeiriol.
Edrych ar flaen Dwyreiniol Eglwys Gadeiriol Bangor
Cafodd y ffenestr fawr Ddwyreiniol ei chreu tua'r flwyddyn 1500 ac fe'i gwnaed yn arddull ‘Perpendicwlar’ y cyfnod hwnnw. Yn unol â thraddodiad, roedd y ffenestr hon yn rhodd gan deulu Llwydiarth o Lannerchymedd, Ynys Môn. Cafodd y ffrâm ei hatgyweirio'n ofalus gan John Cooper o Fiwmares yn 1785.
Ym mhen Dwyreiniol eglwysi ac eglwysi cadeiriol y lleolir yr allor. Mae goleuni'r haul wrth iddo godi, yn tywynnu trwy'r ffenestr Ddwyreiniol yn gynnar yn y bore, ac yn ein hatgoffa o fedd Iesu’n cael ei ddarganfod yn wag yn gynnar ar fore Sul y Pasg.
Mae Tedi Horsley’n cerdded ar draws y glaswellt heibio’r bobl sy’n siarad â’i gilydd. Ar yr ochr Ddeheuol mae’n gweld wal hir corff yr eglwys a Chapel Mair.
Mae Tedi Horsley’n parhau â’i daith heibio’r ffenestr Ddwyreiniol fawr at ochr Ddeheuol yr eglwys gadeiriol. Mae’n cerdded ar draws y glaswellt, heibio’r bobl sy’n siarad â’i gilydd ar hyd y llwybr o’r Stryd Fawr. Yn ystod y dydd, mae’r haul yn tywynnu ar ochr Ddeheuol yr eglwys gadeiriol. Mae’r haul yn dod â golau i wal hir corff yr eglwys ac i Gapel Mair. Mae Tedi Horsley eisiau mynd i mewn i Gapel Mair wedyn.
Edrych ar ochr Ddeheuol Eglwys Gadeiriol Bangor
Adeiladwyd Eglwys Gadeiriol Bangor ar ffurf croes. Yn y llun mae Tedi Horsley’n sefyll ger y transept Deheuol, sy'n ffurfio un o freichiau'r groes. Cafodd y transept ei adeiladu tua'r flwyddyn 1275 ac yn arddull ‘Seisnig Cynnar’ y cyfnod hwnnw. Cafodd ei ail-adeiladu yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Lleolir Capel Mair yn y transept Deheuol. Mae Tedi Horsley’n ymweld â Chapel Mair yn ddiweddarach.
Fel yr eil Ogleddol, mae gan yr eil Ddeheuol chwech o ffenestri yn yr arddull ‘Addurnedig’ o'r cyfnod rhwng y blynyddoedd 1300 ac 1350, gyda bwtresi cedyrn rhwng y ffenestri.
Mae Tedi Horsley’n cerdded oddi amgylch Eglwys Gadeiriol Bangor i ddod o hyd i’r fynedfa arall. Ar y pen Gorllewinol mae’n gweld y tŵr cadarn yn ymestyn i’r awyr.
Mae Tedi Horsley’n parhau â’i daith o gwmpas Eglwys Gadeiriol Bangor er mwyn dod o hyd i’r fynedfa arall. Yno, ym mhen Gorllewinol yr eglwys gadeiriol, mae Tedi Horsley’n edrych i fyny at y tŵr cadarn sy’n ymestyn i’r awyr. Yno, mae’n gweld gwydr yn y ffenestr ar y llawr cyntaf sy’n gadael golau ddod i mewn. Yno, mae’n gweld slatiau yn y ffenestr ar yr ail lawr sy’n gadael seiniau’r clychau ddod allan. Gyda’r nos, mae pelydrau’r haul sy’n machlud yn tywynnu ar wyneb Gorllewinol yr eglwys gadeiriol.
Edrych ar ochr Tŵr Gorllewinol Eglwys Gadeiriol Bangor
Y tŵr mawr Gorllewinol oedd y rhan olaf o Eglwys Gadeiriol Bangor i gael ei adeiladu cyn y Diwygiad Protestannaidd. Mae'r arysgrif mewn Lladin uwchben y drws yn datgan yn Lladin mai, ‘Thomas Skevington, Esgob Bangor, a orchmynnodd i'r clochdy hwn gael ei adeiladu yn y flwyddyn pryd y rhoddodd y Wyryf enedigaeth, 1532.’ Mae'r tŵr yn 61 troedfedd o uchder, ac mae'r pinaclau ar ei ben yn mesur 7 troedfedd.
Adeiladwyd y tŵr ar gyfer cylch o nifer o glychau. Yn y flwyddyn 1687, fe gastiodd Thomas Roberts o Amwythig bump o glychau i'w hongian yn y tŵr hwn. Yn bresennol, mae tair cloch yn y tŵr a osodwyd yno yn 1842. Mae'r gloch fwyaf o'r rhain, gafodd ei hail-gastio gan James Barnett yn y flwyddyn 1878, yn pwyso tua 30 canpwys, a hi yw'r gloch eglwys drymaf yng Nghymru.
Yn ystod y blynyddoedd diweddar cafodd mynedfa Orllewinol Eglwys Gadeiriol Bangor ei hagor, a sgrin wydr a drws eu hychwanegu. Yn awr gall pobl edrych i mewn i'r Eglwys Gadeiriol wrth iddyn nhw gerdded heibio i fyny at y Stryd Fawr, a gall yr Eglwys Gadeiriol edrych allan ar y ddinas.
Y tu mewn i Eglwys Gadeiriol Bangor, mae Tedi Horsley’n edrych i fyny at y trawstiau a’r to. Mae’n ymestyn yn uchel i bwyntio at y Grog sy’n hongian uwch ben sgrin y côr.
Mae Tedi Horsley’n cerdded trwy’r drysau gwydr agored sydd yng nghefn yr eglwys gadeiriol ac yn ein gwahodd i’w ddilyn wrth iddo fynd i mewn. O gefn yr eglwys gadeiriol, mae Tedi Horsley’n edrych yn syth tuag at y ffenestr Ddwyreiniol fawr yr oedd wedi ei gweld o’r tu allan. Nawr, mae golau’n disgleirio trwy’r gwydr lliw. Y tu mewn i Eglwys Gadeiriol Bangor mae Tedi Horsley’n edrych i fyny tuag at y trawstiau a’r to. Mae’n ymestyn yn uchel i bwyntio at y Grog sy’n hongian uwchben sgrin y côr.
Dysgu am y Grog
Pan fydd Tedi Horsley’n cerdded trwy’r drws Gorllewinol, ac ar hyd yr eil ganol, mae’n sylwi ar y Grog sy’n hongian uwchben sgrin y côr. Cafodd y Grog ei chynllunio gan Alban Caroe ac mae'n dyddio o'r flwyddyn 1950.
Mae'r term ‘Y Grog’ yn cyfeirio at y groes y bu Iesu farw arni. Mae'r Grog yn portreadu Iesu'n hongian ar y groes gyda Mair, ei fam, ar un ochr ac un o'i ddisgyblion ar yr ochr arall. Mae'r olygfa'n cyfeirio at yr adnodau yn Efengyl Ioan 19: 26-27:
Pan welodd Iesu ei fam, felly, a’r disgybl yr oedd yn ei garu yn sefyll yn ei hymyl, meddai wrth ei fam, “Wraig, dyma dy fab di.” Yna dywedodd wrth y disgybl, “Dyma dy fam di.” Ac o’r awr honno, cymerodd y disgybl hi i mewn i’w gartref.
Wrth edrych i fyny tua’r to mae Tedi Horsley’n cysgodi ei lygaid rhag y golau. Mae’n ymestyn yn uchel i bwyntio at lun o Deiniol Sant yn y ffenestr wydr lliw.
Gan barhau i edrych i fyny, mae Tedi Horsley’n troi ei olwg oddi ar y ffenestr Ddwyreiniol dal er mwyn edrych ar y ffenestri ar yr ochr Ddeheuol. Yno, mae’n gweld y golau’n arllwys trwy’r tri llun o’r seintiau doeth a sanctaidd. Yn y ffrâm ganol mae llun Deiniol Sant, a sefydlodd Eglwys Gadeiriol Bangor. Yn y ffrâm sydd ar y chwith mae llun Dyfrig Sant, esgob a chenhadwr. Yn y ffrâm sydd ar y dde mae llun o Beuno Sant. Rhai fel y seintiau sanctaidd hyn a ffurfiodd y ffydd Gristnogol yng Nghymru.
Dysgu am y ffenestr wydr lliw
Mae Tedi Horsley’n edrych i fyny at y ffenestr wydr lliw sydd yn yr eil Ddeheuol i'r chwith o'r fynedfa Ddeheuol. Credir fod y ffenestr hon wedi cael ei llunio gan Burliston a Grylls (cwmni a sefydlwyd yn 1868). Mae'r ffenestr yn coffáu John Pryce, a oedd yn Ddeon Bangor yn ystod blynyddoedd 1902-1903.
Mae'r llun canol yn dangos Deiniol Sant, sefydlydd Eglwys Gadeiriol Bangor. Fel Esgob, mae Deiniol yn gwisgo meitr am ei ben ac yn dal bugeilffon yn ei law chwith. Yn ei law dde mae'n cario model o Eglwys Gadeiriol Bangor. Mae'r darlun ar y chwith yn dangos Dyfrig Sant, a wasanaethodd fel esgob a chenhadwr yn ne-ddwyrain Cymru. Bu ef farw tua'r flwyddyn 502 OC. Mae'r llun ar y dde yn dangos Beuno Sant, sy’n dal model o gyff plwyfol hynafol. Bu farw Beuno tua'r flwyddyn 642 OC. Nid oedd yn esgob, er yn ôl traddodiad roedd y seintiau Celtaidd cynnar yn cario bugeilffyn fel esgobion.
Y tu mewn i Eglwys Gadeiriol Bangor, mae Tedi Horsley’n edrych ar y llawr a’r teils. Mae’n gwyro i lawr yn isel i bwyntio at yr eryr, y pysgod, y gwningen a’r aderyn ar deils y llawr.
Y tu mewn i Eglwys Gadeiriol Bangor, mae Tedi Horsley’n gostwng ei olwg oddi wrth y ffenestr tuag at y llawr. Mae’n gwyro i lawr ac yn pwyntio at batrymau’r teils sydd ar y llawr. Yno, mae’n gweld yr eryr â’r ddau ben yn dal pysgod, Yno, mae’n gweld y gwningen yn hela â bwa a saeth. Yno, mae’n gweld yr aderyn rhyfedd gyda’i adenydd ar led. Mae Tedi Horsley’n ein gwahodd ni i chwilio am y teils llawr hyn hefyd.
Edrych ar deils y llawr
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg roedd teils llawr diddorol iawn yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Pan oedd Syr George Gilbert Scott yn atgyweirio Eglwys Gadeiriol Bangor yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg gwnaethpwyd copïau o dri o'r dyluniadau:
- eryr â dau ben yn dal pysgod. Credir mai arwyddlun llwyth Coel Hen oedd hwn, sef y llwyth yr oedd Deiniol yn perthyn iddo.
- cwningen yn hela â bwa a saeth. Roedd anifeiliaid a oedd yn cael eu hela yn hela'u helwyr yn thema boblogaidd mewn cerfiadau a dyluniadau addurnedig yn yr oesoedd canol.
- aderyn hynod a all fod y ‘caladrius’. Yn ôl y chwedl roedd y caladrius yn ymweld ag ystafell person gwael. Pe byddai'r aderyn yn edrych ar y person gwael, byddai hyn yn cael ei ddilyn gan wellhad. Pe na fyddai'r aderyn yn edrych ar y person gwael, byddai marwolaeth yn dilyn.
Wrth edrych ar y llawr mae Tedi Horsley’n agor ei lygaid yn fawr mewn syndod. Mae’n gwyro i lawr yn isel i bwyntio at y llygoden sydd wedi’i cherfio ar waelod y bwrdd.
Gan edrych i fyny oddi ar deils y llawr, mae Tedi Horsley’n agor ei lygaid yn fawr mewn syndod. Yno, ar droed y bwrdd cerfiedig, mae Tedi Horsley’n gweld llygoden fach wedi ei cherfio’n gywrain. Mae llygod bach eraill yr un fath â hon yn cuddio mewn llefydd eraill yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Arwyddlun Robert Thompson, yw’r holl lygod bach hyn. Robert Thompson oedd y saer coed crefftus a gerfiodd beth o’r gwaith pren cywrain yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Mae Tedi Horsley’n ein gwahodd ni i chwilio am y llygod bach hyn.
Archwilio arwyddluniau gan grefftwyr
Yn aml roedd seiri meini a seiri coed yn gadael eu ‘marc’ neilltuol ar eu gwaith, ar ffurf eu marc neu eu harwyddlun unigol eu hunain. Gwna rhai crefftwyr cyfoes rywbeth tebyg. Un arwyddlun cyfoes adnabyddus yw'r ‘llygoden’. Mae sawl darn o waith yn Eglwys Gadeiriol Bangor wedi cael eu gwneud gan saer coed adnabyddus a oedd yn gosod arwyddlun llygoden ar ei waith. Mae Tedi Horsley’n edrych ar y llygoden sydd ar y bwrdd cerfiedig yn y rhan o'r adeilad a elwir y Côr. Mae'r un llygoden ar orchudd y fedyddfaen yng nghefn yr Eglwys Gadeiriol, ac ar y sgrin yng ngwaelod yr eil Ddeheuol gerllaw'r fynedfa i Gapel Mair.
Mae'r ‘arwyddlun llygoden’ yn dangos mai gwaith wedi ei wneud gan Robert Thompson (1876-1955) o Kilburn, Swydd Efrog yw’r gwaith hwnnw.
Y tu mewn i Eglwys Gadeiriol Bangor, mae popeth yn dawel a llonydd, ac mae Tedi Horsley’n glustiau i gyd. Yng nghanol y distawrwydd mae’n clywed cloc mawr yr eglwys yn taro’n uchel yn y tŵr.
Y tu mewn i Eglwys Gadeiriol Bangor, mae popeth yn dawel a llonydd, ac mae Tedi Horsley’n syllu ar y teils llawr ac ar y llygoden fach. Yna, mae Tedi Horsley’n glustiau i gyd wrth i gloc mawr yr eglwys daro’n uchel yn y tŵr. Mae sŵn y gloch mor gryf a dwfn nes bod Tedi Horsley’n teimlo’r awyr yn symud o gwmpas ei glustiau. Mae cloc mawr yr eglwys yn taro’n uchel bob awr.
Gwrando ar y cloc
Yn aml mae gan eglwysi ac eglwysi cadeiriol hynafol gloc yn y tŵr. Yn y dyddiau cyn bod y mwyafrif o bobl yn cario wats, roedd cloc eglwys yn darparu gwasanaeth da ar gyfer y gymuned. Gallai'r bobl nad oedd yn ddigon agos i weld wyneb y cloc, sut bynnag, wybod beth oedd yr amser wrth wrando ar y gloch.
Mae'r cloc yn Eglwys Gadeiriol Bangor yn weddol fodern, a thrydan sy’n ei weithio. Mae'n disodli peirianwaith cloc a oedd yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif, sydd yn awr yn Neuadd Tre-Ysgawen, Capel Coch, Ynys Môn.
Mae Tedi Horsley’n cerdded at yr organ enfawr. Mae’n gwisgo’r clustffonau ac yn pwyso’r botwm. Yng nghanol y distawrwydd mae’n clywed yr organ rymus yn canu cerddoriaeth eglwysig.
Gan godi oddi ar y llawr, mae Tedi Horsley’n cerdded ar draws at yr organ enfawr. Mae’n syllu trwy’r sgrin ac mae’n gweld pedair allweddell fawr. Mae’n edrych i lawr ac mae’n gweld yr holl bedalau. Mae’n edrych i fyny ac mae’n gweld y pibau enfawr. Mae Tedi Horsley’n codi’r clustffonau ac mae’n clywed yr organ rymus yn canu. Organ Eglwys Gadeiriol Bangor yw un o’r rhai gorau yng Nghymru. Mae Tedi Horsley’n ein gwahodd ni i wrando arni.
Edrych ar yr organ yn Eglwys Gadeiriol Bangor
Mae’r organ wedi bod yn nodwedd bwysig o gerddoriaeth mewn eglwysi ac eglwysi cadeiriol ers yr oesoedd canol. Mae cofnodion bod organ wedi cael ei gosod yn Eglwys Gadeiriol Bangor yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae'r organ sy'n cael ei chanu yn Eglwys Gadeiriol Bangor heddiw yn dyddio o'r flwyddyn 1873, a chafodd ei llunio gan yr adeiladwr organau adnabyddus William Hill. Cafodd ei haddasu a'i hymestyn dros y blynyddoedd. Mae gan yr organ hon bedair allweddell sy'n cael eu chwarae gan ddwylo'r organydd a set o bedalau sy'n cael eu chwarae gan draed yr organydd. Cysylltir yr allweddellau a'r pedalau i sawl set o bibau. Roedd pob set o bibau yn cynhyrchu sŵn nodedig. Yn gyfan gwbl, mae'r organ hon yn cynnwys 4,210 o bibellau, sy'n ei gwneud yn un o'r rhai mwyaf yng Nghymru. Mae rhai setiau o bibau wedi cael eu gwneud o fetel a rhai eraill wedi eu gwneud o bren. Mae'r pibau'n amrywio mewn maint o rai fel pensel fach i rai sydd mor dal â thŷ.
Y tu mewn i Eglwys Gadeiriol Bangor, mae popeth yn dawel a llonydd, ac mae Tedi Horsley’n arogli’r awyr. Mae’n arogli persawr hyfryd y blodau yn ymyl yr uwch allor.
Y tu mewn i Eglwys Gadeiriol Bangor, mae popeth yn dawel a llonydd wrth i Tedi Horsley gerdded yn araf oddi wrth yr organ tua’r uwch allor yn y blaen Dwyreiniol. Mae Tedi Horsley’n cerdded i fyny’r stepiau i’r cysegr ac yn arogli’r awyr. Yno, ar yr ochr dde, mae’n arogli persawr hyfryd y blodau yn ymyl yr uwch allor. Mae’r blodau wedi eu trefnu’n gelfydd iawn ar y stand blodau haearn gyr.
Dysgu am y Cysegr
Mae Tedi Horsley wedi cerdded i'r Cysegr er mwyn ymweld â'r Uwch Allor lle mae'r gwasanaeth cymun cynnar yn cael ei weinyddu am 8:30 ar fore Sul. Tu ôl i'r Uwch Allor mae Reredos gwych a gafodd ei gynllunio yn y flwyddyn 1881 gan Oldrid Scott, mab Syr George Gilbert Scott oedd wedi arolygu'r gwaith o atgyweirio Eglwys Gadeiriol Bangor. Ar ben y Reredos mae angylion o liw euraid yn cario tarianau herodrol.
Trwy gydol y flwyddyn, ar wahân i gyfnod yr Adfent a'r Garawys, mae trefniannau blodau yn y Cysegr i offrymu moliant i Dduw.
Wrth symud oddi wrth y blodau, mae Tedi Horsley’n anadlu’n ddwfn ac yn arogli’r awyr eto. Mae’n cerdded i’r cysegr ac yn arogli persawr cyfoethog yr arogldarth.
Gan symud oddi wrth y blodau, mae Tedi Horsley’n cerdded ar draws y cysegr ac yn sefyll nawr ar ochr chwith yr uwch allor. Mae’n anadlu’n ddwfn ac yn arogli’r awyr eto. Yno, mae’n arogli persawr cyfoethog yr arogldarth. Mae’n gweld y thuser bres yn siglo’n araf ar ei chadwyn. Mae’n gweld y cymylau ysgafn o fwg yn codi trwy’r awyr gan greu chwa o bersawr coeth i foli Duw.
Dysgu am arogldarth
Wrth i Tedi Horsley gerdded o flaen yr Uwch Allor mae'n gweld, ar yr ochr chwith, thuser bres yn hongian oddi ar ei chadwyni pres. Defnyddir y thuser i losgi arogldarth ar siarcol poeth. Mewn rhai gwasanaethau yn yr Eglwys Gadeiriol bydd y thuser yn cael ei siglo o ochr i ochr er mwyn helpu'r siarcol losgi ar wres uwch.
Mewn rhai eglwysi bydd arogldarth yn cael ei losgi fel arwydd o weddi a mawl yn esgyn at Dduw. Weithiau bydd cyfeiriad yn cael ei wneud at adnodau o Lyfr Datguddiad, 8: 3-5
Daeth angel arall, a safodd wrth yr allor â thuser aur yn ei law. Rhoddwyd iddo ddigonedd o arogldarth i’w offrymu gyda gweddïau’r holl saint ar yr allor aur oedd o flaen yr orsedd. O law'r angel esgynnodd mwg yr arogldarth gerbron Duw gyda gweddïau’r saint.
Y tu mewn i Eglwys Gadeiriol Bangor, mae Tedi Horsley’n ymestyn ei bawen ac yn teimlo’r gwahanol siapiau. Mae’n mynd at seddau’r côr ac yn cyffwrdd yr angylion sydd wedi’u cerfio ar bob pen i’r seddau.
1. Y tu mewn i Eglwys Gadeiriol Bangor, mae Tedi Horsley’n dechrau ei daith yn ôl oddi wrth yr uwch allor tua’r drws Gorllewinol lle daeth i mewn gyntaf i’r eglwys gadeiriol. Ar ei ffordd i lawr ar hyd y gangell, mae Tedi Horsley’n ymestyn ei bawennau ac yn teimlo’r gwahanol siapiau. Mae’n mynd at seddau’r côr ac yn cyffwrdd yr angylion sydd wedi’u cerfio ar bob pen i’r meinciau. Mae’n amlinellu’r plu cain ar eu hadenydd.
Archwilio seddau’r côr
Cafodd seddau'r côr sydd yn Eglwys Gadeiriol Bangor eu hychwanegu yn ystod y gwaith atgyweirio dan arweiniad Syr George Gilbert Scott yn ail ran y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae dau beth ynghylch seddau'r côr sy’n haeddu sylw arbennig. Mae seddau'r côr wedi eu haddurno â bwystfilod cerfiedig, dreigiau, angylion, griffynau, cerddorion, wynebau, dynion gwyrdd, pobl, anifeiliaid, ac yn guddiedig, mae mwnci'n dringo coeden a hwyaden yn cwacian.
Mae Tedi Horsley’n teimlo'r angel cerfiedig gwych ar ben draw un o'r seddau. Mae'r angel y cafodd Tedi Horsley hyd iddo yn chwarae telyn. Mae'r delyn yn cynrychioli'r uniad rhwng nefoedd a daear. Yn yr Hen Destament, byddai telynau’n cael eu defnyddio fel cyfeiliant ar gyfer canu caneuon o ddiolch a mawl i Dduw, ac yn y Testament Newydd mae awdur Llyfr Datguddiad yn disgrifio'i weledigaeth o gerddoriaeth y nefoedd fel hyn:
Clywais lais o’r nef fel sŵn llawer o ddyfroedd ac fel sŵn taran fawr. Yr oedd y llais a glywais fel sain telynorion yn canu eu telynau (Datguddiad 14: 2)
Mae Cabidwl yr Eglwys Gadeiriol yn cynnwys deuddeg o Ganoniaid, ac mae gan bob Canon ei sedd ei hun wedi ei nodi â'i deitl/â'i theitl. Mae seddau hefyd ar gyfer y Deon, y Canon Trigiannol a'r ddau Is-Ganon. Wrth edrych i fyny at yr allor, ar yr ochr chwith mae'r seddau'n nodi’r enwau mewn Lladin: Canonicus Residentarius (Canon Trigiannol), Archidiaconus Bangoriensis (Archddiacon Bangor), Praebendarius de Penmyndd (Prebendari Penmynydd), Canonicus Primus (Y Cyntaf), Canonicus Secundus (Yr Ail), Canonicus Tertius (Y Trydydd), Canonicus Quartus (Y Pedwerydd), a'r Canonicus Minor (Is-Ganon).
Ar yr ochr dde, mae'r seddau'n nodi’r enwau Lladin: Decanus (Deon), Archidiaconus Merionethiensis (Archddiacon Meirionnydd), Praebendarius de Llanfair (Prebendari Llanfair), Thesaurarius (Trysorydd), Chancellarius (Canghellor), Praecentor (Prif Gantor), Canonicus Quintus (Y Pumed) a'r Canonicus Minor (Is-Ganon).
Mae Tedi Horsley’n teimlo’i ffordd ar hyd y seddau o’r naill siâp i’r llall. Mae’n mynd at Gadair yr Esgob ac yn ymestyn ei bawen i gyffwrdd y darian.
Mae Tedi Horsley’n teimlo ei ffordd ar hyd y seddau o’r naill siâp i’r llall. Mae’n dringo i fyny i Gadair yr Esgob. Mae’n sylwi ar y gadair fawr lle mae’r esgob yn eistedd ar achlysuron pwysig ac arbennig. Mae’n ymestyn ei bawennau i gyffwrdd y darian. Dyma darian Esgobaeth Bangor, ac uwchben y darian mae llun meitr yr esgob. Mae Tedi Horsley’n ein gwahodd ni i ddod i weld.
Dysgu am Gadair yr Esgob
O'r gair Lladin sy'n golygu ‘cadair’ y tardda'r enw Saesneg ‘cathedral’ sef Eglwys Gadeiriol yn Gymraeg. Yn llythrennol, yr Eglwys Gadeiriol yw'r adeilad lle mae gan Esgob yr Esgobaeth ei gadair arbennig neu (mewn rhai lleoedd) ei chadair arbennig. Mae cadair yr Esgob yn arwydd o awdurdod, a chaiff yr Esgob ei ‘orseddu’ yn y sedd yn ystod gwasanaeth sefydlu mawreddog. Yr Esgob presennol, Y Gwir Barchedig Andrew John, yw pedwar ugeinfed ag un Esgob Bangor (81).
Er bod gan Esgob Andrew ei sedd yn Eglwys Gadeiriol Bangor, nid ef sydd â'r gofal am yr Eglwys Gadeiriol. Mae'r Eglwys Gadeiriol yng ngofal y Deon a'r Cabidwl. Y Deon presennol yw'r Tra Pharchedig Ddr Susan H Jones, a hi yw unfed Ddeon ar bymtheg a deugain Bangor (56).
Cyn ymadael ag Eglwys Gadeiriol Bangor mae Tedi Horsley’n edrych o’i gwmpas unwaith eto. Yng nghefn yr Eglwys Gadeiriol mae’n gweld y bedyddfaen lle mae pobl a phlant yn cael eu bedyddio.
Mae Tedi Horsley wedi cyrraedd yn ôl at y drws Gorllewinol mawr. Cyn ymadael ag Eglwys Gadeiriol Bangor, mae Tedi Horsley’n edrych o’i gwmpas unwaith eto. Nawr, mae’n meddwl am yr holl bethau pwysig a sanctaidd sy’n digwydd yn yr eglwys gadeiriol hynafol heddiw. Yng nghefn yr eglwys gadeiriol, mae Tedi Horsley’n ymweld â’r bedyddfaen lle mae pobl a phlant yn mynd i gael eu bedyddio.
Dysgu am y Bedyddfaen
Mae Tedi Horsley wedi mynd yn ôl at y drysau mawr gwydr yng nghefn yr adeilad. Dyna’r drws y daeth i mewn drwyddo i'r Eglwys Gadeiriol yn gyntaf. Yn awr, mae Tedi’n oedi i edrych ar y bedyddfaen. Mae'r bedyddfaen wedi ei leoli ger y brif fynedfa i atgoffa pobl bod bedydd yn ffordd o ymaelodi â'r Eglwys Gristnogol. Powlen fawr i ddal dŵr ar gyfer bedyddio yw'r bedyddfaen.
Yn Eglwys Gadeiriol Bangor, mae'r Eglwys yng Nghymru'n croesawu pobl o bob oed i arddel eu ffydd yng Nghrist trwy'r sacrament o fedydd. Pan fydd pobl ifanc neu oedolion yn cael eu bedyddio, fe fyddan nhw’n datgan eu ffydd yng Nghrist ac yn gwneud addunedau i ddilyn Crist. Pan fydd babanod yn cael eu bedyddio bydd eu rhieni bedydd yn gwneud datganiad o ffydd ar eu rhan. Mae cyfle i bobl, sydd wedi cael eu bedyddio pan oedden nhw’n fabanod, gadarnhau'r addewidion hyn pan fyddan nhw’n ddigon hen i wneud hynny mewn gwasanaeth Bedydd Esgob.
Mae Tedi Horsley’n cerdded i fyny’r eil ganol yr holl ffordd o gefn yr Eglwys Gadeiriol i’r tu blaen. Yn y tu blaen mae’n gweld allor corff yr eglwys lle mae’r offeiriad yn gweinyddu’r Cymun Bendigaid.
Mae Tedi Horsley’n cerdded oddi wrth y bedyddfaen yng nghefn Eglwys Gadeiriol Bangor. Mae’n cerdded i fyny’r eil ganol yr holl ffordd o’r cefn i’r tu blaen. Yn y tu blaen, mae’n gweld allor corff yr eglwys lle mae’r offeiriad yn gweinyddu’r Cymun Bendigaid. Yno, mae’n gweld blaenliain cain yr allor, y lliain gwyn dros yr allor a’r ddwy ganhwyllbren.
Dysgu am Allor Corff yr Eglwys
Pan ymwelodd Tedi Horsley â'r cysegr fe welodd yr Uwch Allor lle mae'r gwasanaeth cymun ar lafar yn cael ei weinyddu am 8:30am ar y Sul. Yn awr, mae Tedi Horsley’n ymweld ag Allor Corff yr Eglwys lle mae'r gwasanaeth cymun corawl yn cael ei weinyddu am 11:00am. Yn ystod y gwasanaeth hwnnw bydd aelodau o'r gynulleidfa yn dod â bara, gwin a dŵr o gefn yr Eglwys Gadeiriol i’r offeiriad eu gosod ar yr allor. Bydd yr offeiriad yn cymryd y bara, yn diolch i Dduw, yn torri'r bara, ac yn ei rannu gyda'r bobl.
Bydd y bobl yn dod ymlaen i benlinio neu sefyll wrth reilen yr allor ac wrth roi'r cymun yn ei dro i bob unigolyn sy'n derbyn y cymun, mae'r offeiriad, wrth roi'r bara, yn dweud, ‘Corff Crist’, ac wrth roi'r cwpan, yn dweud, ‘Gwaed Crist’.
Cyn ymadael ag Eglwys Gadeiriol Bangor mae Tedi Horsley’n edrych i’r chwith wrth allor corff yr eglwys. Yno mae’n gweld y pulpud tal lle mae’r esgob yn pregethu.
Cyn ymadael ag Eglwys Gadeiriol Bangor, mae Tedi Horsley’n edrych i ochr chwith allor corff yr eglwys. Yno, mae’n gweld y pulpud tal lle mae’r esgob yn pregethu. Mae Tedi Horsley’n edrych i fyny ar y cerfiadau cain sydd ar y pulpud. Mae’n dychmygu ei fod yn gallu clywed yr esgob yn dechrau gyda’r geiriau, ‘Yn enw’r Tad, y Mab, a’r Ysbryd Glân.’
Dysgu am y Pulpud
I'r chwith o Allor Corff yr Eglwys mae'r pulpud carreg trawiadol yn sefyll. Defnyddir y pulpud gan glerigwyr i bregethu ac addysgu. Yn y dyddiau cyn meicroffonau roedd y pulpud yn cael ei osod i sefyll yn uchel er mwyn helpu llais y pregethwr i gyrraedd pen draw'r Eglwys Gadeiriol.
Gosodwyd y pulpud hwn yn Eglwys Gadeiriol Bangor er cof am y Parchedig Morris Williams M.A., cyn Reithor Llanrhuddlad a Deon Gwlad. Mae'r arysgrif yn nodi, ysgolhaig Cymreig blaengar, bardd a difinydd, 1810-1874 (‘an eminent Welsh scholar, poet and divine, 1810-1874’).
Ar un o'r wynebau’r pulpud, mae llun o Iesu ar ddechrau ei weinidogaeth, pan ddaeth a chyhoeddi, ‘Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.’ (Mathew 4: 17). Mae un arall o wynebau’r pulpud yn dangos Iesu ar ddiwedd ei fywyd ar y ddaear, pan roddodd gomisiwn i'w ddisgyblion, ‘Ewch i’r holl fyd a phregethwch yr Efengyl i’r greadigaeth i gyd.’ (Marc 16: 15).
Gan droi oddi wrth y pulpud, mae Tedi Horsley’n edrych i’r dde wrth allor corff yr eglwys. Yno mae’n gweld yr eryr pres gloyw, y ddarllenfa lle mae pobl yn darllen o’r Beibl.
Gan droi oddi wrth y pulpud, mae Tedi Horsley’n cerdded ar draws i ochr dde allor corff yr eglwys. Yno, mae’n gweld yr eryr pres gloyw. Dyma’r ddarllenfa lle mae pobl yn darllen o’r Beibl. Mae Tedi Horsley’n cerdded i fyny’r stepiau ac yn gweld Beibl mawr wedi ei agor ar adenydd yr eryr. Mae’r eryr yn cario Gair Duw allan i’r byd. Mae’n dychmygu ei fod yn clywed y darllenydd yn dweud, ‘Dyma Air yr Arglwydd.’
Dysgu am y Ddarllenfa
Mae’r Ddarllenfa wedi ei gosod ym mhen blaen Corff yr Eglwys, i'r dde o Allor Corff yr Eglwys. Yn ystod y gwasanaeth cymun ar fore Sul, bydd rhywun o'r gynulleidfa yn dod ymlaen i ddarllen o'r Beibl ar y ddarllenfa. Ar fore Sul, fel arfer, bydd un darlleniad o'r Hen Destament ac un darlleniad o'r Testament Newydd cyn y bydd un o'r clerigwyr yn darllen yr Efengyl o ganol Corff yr Eglwys.
Mae'r ddelwedd rymus o'r eryr pres yn dangos Gair Duw (o'r Beibl) yn cael ei gario i mewn i'r eglwys ac i'r byd ar gefn yr eryr. Cafodd y Ddarllenfa hon ei chynhyrchu gan A. Prost, Bilton Grange, Rugby. Cafodd ei chyflwyno gan weddw a merched Evan Lewis ar gyfer ei defnyddio yn Eglwys Gadeiriol Bangor, ac arni mae'r arysgrif, ‘To the Glory of God and in loving memory of Evan Lewis, Dean of Bangor, 1884-1901’-‘Er gogoniant i Dduw ac er serchus gof am Evan Lewis, Deon Bangor, 1884-1901.’
Cyn ymadael ag Eglwys Gadeiriol Bangor mae Tedi Horsley’n mynd i Gapel Mair. Yno, mae’n sefyll ac yn ysgrifennu gweddi i eraill ei darllen a’i chyflwyno i Dduw.
Cyn ymadael ag Eglwys Gadeiriol Bangor, mae Tedi Horsley’n mynd i weld Capel Mair. Lle tawel i weddïo yw Capel Mair, wedi ei gysegru i’r Forwyn Fair Fendigaid, mam Iesu. Yno, yng Nghapel Mair, mae Tedi Horsley’n gweld desg, pensiliau a bwrdd mawr lle mae pobl yn gallu gosod eu gweddiau. Mae Tedi Horsley’n codi pensil ac yn ysgrifennu ei weddi er mwyn i eraill ei darllen a’i chyflwyno i Dduw. Mae’n ein gwahodd ni i ysgrifennu gweddi hefyd.
Ymweld â Chapel Mair
Rhan o'r Eglwys Gadeiriol sydd wedi ei chysegru i'r Fendigaid Forwyn Fair, mam Iesu, yw Capel Mair. Mae cerflun o Mair yng Nghapel Mair, sydd wedi ei leoli yn y Transept Deheuol. Yng Nghapel Mair, mae'n werth sylwi ar y murlun yn y bwa uwchben yr allor. Mae'n dangos Iesu ar y Ffordd i Emaus, ar ôl ei atgyfodiad, yn cael ei groesawu gan ddau o bobl i'w cartref.
Heddiw mae Capel Mair yn gartref i fwrdd gweddi neu lyfr gweddi'r Eglwys Gadeiriol ar gyfer pobl ac ymwelwyr, fel ei gilydd, sy'n cael eu gwahodd i osod eu gweddïau yno. Caiff y gweddïau hyn eu cyflwyno i Dduw gan staff yr Eglwys Gadeiriol.
Yno, yng Nghapel Mair mae Tedi Horsley’n edrych ar fflamau’r canhwyllau gweddi’n crynu, ac mae’n cyflwyno ei weddi i Dduw.
Yno, yng Nghapel Mair, yn ymyl y bwrdd gweddi, mae Tedi Horsley’n gweld stand yn dal canhwyllau gweddi. Mae’n gweld pobl yn dod i mewn i Gapel Mair, yn goleuo cannwyll ac yn sefyll yn dawel tra maen nhw’n cyflwyno eu gweddi i Dduw. Mae Tedi Horsley’n ychwanegu ei weddi hefyd. Mae Tedi Horsley’n gwybod bod Duw’n gwrando ar ei weddïau.
Oedi i weddïo yng Nghapel Mair
Caiff Capel Mair Bangor ei neilltuo ar gyfer gweddïo a myfyrio’n dawel. Yn ogystal â'r ddesg weddi, mae yno seddau cyfforddus i bobl eistedd arnyn nhw ac ymlacio. Mae yno ddwy nodwedd hefyd i helpu pobl ganolbwyntio ar eu gweddïau. Mae'r bwrdd neu'r llyfr gweddi yno i helpu pobl ffurfio'u gweddïau yn ogystal â gofyn i eraill weddïo gyda nhw. Mae'r canhwyllau gweddi yno i helpu pobl gyflwyno eu gweddïau i Dduw mewn ffordd arall.
Mae siop yr Eglwys Gadeiriol yn cadw llyfrau am weddi a llyfrau o weddïau. Mae staff yr Eglwys Gadeiriol yno i helpu hefyd.
Arth fach yw Tedi Horsley sy’n hoffi ymweld ag eglwysi cadeiriol. Heddiw, roedd Tedi Horsley wrth ei fodd yn ymweld ag Eglwys Gadeiriol Bangor.
Arth fach yw Tedi Horsley sy’n hoffi ymweld ag eglwysi cadeiriol. Heddiw, mae Tedi Horsley wedi bod yn ymweld ag Eglwys Gadeiriol Bangor yng Ngogledd Cymru gyda’i ffrindiau, Mr a Mrs Henry, Lucy, Walter a Betsi Bêr. Mae Tedi Horsley’n falch iawn ein bod wedi penderfynu dod gydag ef. Roedd Tedi Horsley wedi mwynhau ymweld ag Eglwys Gadeiriol Bangor yn fawr iawn. Mae’n gobeithio ein bod ninnau wedi mwynhau ein hymweliad hefyd.
Dysgu am waith Eglwys Gadeiriol Bangor
Eglwys Gadeiriol fechan yw Eglwys Gadeiriol Bangor gyda chyllideb fechan, calon fawr a gweledigaeth fawrfrydig o blaid cenhadaeth Duw yn Ninas ac Esgobaeth Bangor.