Pwy yw Tedi Horsley?
Arth fach yw Tedi Horsley sy’n byw gyda Mr a Mrs Henry, Lucy, Walter, a Betsi Bêr. Maen nhw’n byw ynghyd fel teulu lle mae credu yn Nuw, mynd i’r eglwys, a darllen y Beibl yn rhan allweddol o fywyd normal. Mae Tedi Horsley eisiau rhannu ag eraill ei brofiad o fyw mewn teulu Cristnogol.
Gyda help ei awduron, fe ddechreuodd Tedi Horsley gyhoeddi llyfrau am ei fywyd yn 1983. Mae rhai o’i lyfrau ar gael gan Christian Education.
Nawr, mae Tedi Horsley eisiau croesawu pobl i Eglwys Gadeiriol Bangor ac i’r Eglwys Gristnogol yng Ngogledd Cymru.